Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Gorffennaf 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12903
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Dirprwy Lywydd
Cyhoeddodd y Dirprwy Lywydd y bu Sam Rowlands yn llwyddiannus yn y balot ar gyfer Bil Aelod i ofyn am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil Addysg Awyr Agored (Cymru).
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd cwestiynau 1-3, 5-6 a 8-10. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4-10. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 5 ac 8-10 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau bod lefelau tlodi plant wedi codi yng Nghymru yn ystod y pandemig er eu bod wedi gostwng yng ngweddill gwledydd y DU?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am – 26 mlynedd ers Srebrenica.
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - 85 mlynedd ers i blant o Wlad y Basg ddod i Gymru yn ystod rhyfel cartref Sbaen.
Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad am – Diwrnod Malala.
Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am – Llongyfarch CF1 ar ennill Côr y Byd.
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5-6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
5 Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 12 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes y dylai Rheol Sefydlog 34 beidio â bod yn effeithiol, fel y trefnwyd, ar 1 Awst 2022.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy Ddirprwy
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8062 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 12.41A-H Dros Dro ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 15.29
NNDM8068 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mike Hedges (Llafur Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8028 Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon;
b) pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon;
c) cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.
Cyd-gyflwynwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Dechreuodd yr eitem am 16.13
NDM8060 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2023-24, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:
a) digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd;
b) gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a
c) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM8066 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hepatitis C
Dechreuodd yr eitem am 17.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8064 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.
2. Yn nodi'r llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gorfodi ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â gofal;
b) datblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan;
c) sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r cynllun strategolcenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
4. Yn nodi:
a) disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;
b) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu hepatitis C erbyn 2030;
c) bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
11 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau a sioeau'r haf
Dechreuodd yr eitem am 17.57
NDM8065 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, ynghyd â sioeau a digwyddiadau haf ledled Cymru, wedi dychwelyd.
2. Yn cydnabod manteision tymor digwyddiadau'r haf o ran hyrwyddo'r Gymraeg, diwylliant Cymru, cynnyrch o Gymru a'n ffordd o fyw.
3. Yn diolch i bawb sy'n ymwneud â sicrhau bod y digwyddiadau'n llwyddiant.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12 Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.29 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.31
13 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.36
NDM8061 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Pleidleisio yn 16 oed: Rhoi'r offer i bobl ifanc ddeall y byd y maent yn byw ynddo, a sut i'w newid, drwy addysg wleidyddol.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.57
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Medi 2022